Iechyd Meddwl a Mabwysiadu

Mimi yn rhannu ei stori am iechyd meddwl a mabwysiadu.

Bydd mabwysiadu bob amser yn rhan ohonom ni Bydd yn effeithio ar bob un ohonom ni mewn sawl ffordd wahanol, gyda gwahanol emosiynau a theimladau. Bydd yn effeithio arnom ni’n feddyliol, a dyna’r gwir. Os ydych chi’n ddigon ffodus i beidio â phrofi hyn rydych chi’n lwcus iawn eich bod yn rhan o’r lleiafrif hwnnw, ond i’r rhan fwyaf ohonom bydd yn effeithio arnom ni. Bydd yn dangos ei hun mewn gwahanol ffyrdd, fel dicter, hunan-niweidio, ei dynnu allan ar bobl eraill gan gynnwys y rhai rydych chi’n eu caru a’ch rhieni ac mewn emosiynau na fyddwn ni bob amser yn gallu eu trin. Mae’n iawn peidio â gwybod beth i’w wneud gyda’r holl deimladau hyn. Doeddwn i ddim. Gadewais i’m hemosiynau gronni cymaint fel fy mod i wedi cael fy llethu ac yn y pen draw ac fe wnes i geisio cymryd fy mywyd fy hun. Ni allaf ddweud fy mod i’n difaru; rydw i wedi dysgu oddi wrtho. Roeddwn i’n teimlo ar goll, yn wag a theimlo fel bod twll ynof fi nad oeddwn i’n gallu ei lenwi. Mae hyn yn normal.

Fy mabwysiadu

Cefais fabwysiad hapus iawn, cefais gariad a chefnogaeth a chyfleoedd na fyddwn i efallai wedi’u cael gyda fy nheulu biolegol. Nid oedd unrhyw beth yn fy mywyd yr oeddwn i’n gallu tynnu sylw ato o ran o ble daeth y teimladau hyn.

Mae wedi cymryd blynyddoedd i mi ddatgelu gorffennol fy mabwysiadu a sut mae’n cysylltu â’m hiechyd meddwl. I mi, trawma cynnar oedd hyn, i lawer ohonom trawma cynnar ydy o. Efallai nad oes unrhyw beth yn ein bywydau yn weladwy i ni a allai achosi i’n hiechyd meddwl ddirywio ac mae hynny’n iawn hefyd.

Derbyn eich bod yn cael trafferth

Gyda’r gefnogaeth gywir gallwn oresgyn hyn. Gofyn a chael y cymorth cywir yw’r rhan anoddaf. Gall derbyn y ffaith eich bod yn cael trafferth a bod angen help ychwanegol arnoch fod yn anodd. Ond ar ôl i chi gymryd y cam cyntaf hwnnw mae’r rhan galed wedi’i wneud. Roeddwn i’n 15 mlwydd oed pan ddechreuais deimlo’n ansicr ac yn ddryslyd

Cymerodd 5 mlynedd i mi gael yr help roeddwn i ei angen oherwydd ni allwn ei dderbyn, a nawr rydw i’n cael y gefnogaeth rydw i ei hangen. Nid yw’n rhywbeth yr ydym o reidrwydd ei eisiau ond dyma’r gefnogaeth rydyn ni ei hangen.

Sut ges i’r help roeddwn i ei angen?

Fe wnes i fynd at fy meddyg teulu a gweithio gyda thîm iechyd meddwl a’r tîm argyfwng i’m helpu i geisio ymdopi â’m teimladau. Cefais fy rhoi ar feddyginiaeth a’m helpodd i gael mwy o egni. Ond nid wnaeth lenwi’r twll a oedd ynof fi o hyd.

Anwybyddodd y timau iechyd meddwl fy mabwysiadu a thrawma yn y gorffennol a phenderfynu mai fy ffordd o fyw oedd yn ei achosi.

Felly, newidiais fy ffordd o fyw. Es i allan mwy, dechreuais yn y gampfa ac unwaith eto roedd yn help i’r graddau fy mod i’n cadw’n brysur ac roedd gen i fwy o gymhelliant i barhau. Fodd bynnag, pan oeddwn i’n mynd adref o’r cyfan ac yn eistedd yn fy nistawrwydd doedd y boen ddim yn mynd i ffwrdd.

Fe wnaeth gefnogaeth fy helpu yn fawr

Cefais gefnogaeth gan fy ffrindiau a’m teulu ac Adoption UK. Grwpiau CONNECT sy’n cael eu rhedeg gan Adoption UK, lle roeddwn i’n gallu rhannu fy mhrofiadau a darganfod nad fi’n unig oedd yn teimlo’n wag. Roedd pobl allan yna a oedd yn fy neall ar lefel nad oeddwn i’n gwybod ei bod yn bodoli. Y gefnogaeth a gefais gan y grŵp hwn oedd y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf fi.

Roedd dweud wrth bobl yn galed

I mi, roedd yn anodd dweud wrth fy nheulu a’m ffrindiau am fy iechyd meddwl oherwydd fy mod yn teimlo embaras, roeddwn i’n teimlo ei fod yn fy ngwneud i’n wan, doeddwn i ddim eisiau i’r bobl oedd yn fy ngharu a’m cefnogi fwyaf wybod fy mod i’n cael trafferth, doeddwn i ddim eisiau hynny. Doeddwn i ddim eisiau rhoi’r bai arnyn nhw oherwydd fy nheimladau. Nid oedd oherwydd unrhyw beth roedden nhw’n ei wneud. Fodd bynnag, yr oedd yn anochel, o ystyried y trawma yr oeddwn i wedi mynd drwyddo mor ifanc, ei fod yn mynd i effeithio arnaf fi rywbryd yn fy mywyd.

Peidiwch â rhoi’r gorau iddi

Bydd yn effeithio arnom ni mewn gwahanol gyfnodau yn ein bywydau a phan fydd yn gwneud hynny, bydd y gefnogaeth gywir ar gael. Mae’n rhaid i chi geisio peidio â rhoi’r gorau iddi a pharhau i wthio. Mae’r teimladau hyn yn iawn. Ni ddylem orfod teimlo na allwn siarad yn agored am ein teimladau nac estyn allan am y cymorth rydyn ni ei angen oherwydd ei fod yn bwnc tabŵ. Mynd drwy’r holl emosiynau hyn yw sut rydym ni’n mynd i dyfu a dod o hyd i ni ein hunain.

Grwpiau ar gyfer pobl ifanc wedi’u mabwysiadu

Felly, dyma pam mae’r grwpiau hyn a’n hamgylchynu ein hunain gyda phobl sy’n ein deall yn hollbwysig. Nid y gefnogaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sydd ei hangen bob amser ond y gefnogaeth gan y rhai sy’n gwybod beth rydym ni wedi bod drwyddo ac yn deall y teimladau sy’n dod gyda mabwysiadu.

Efallai nad eich rhieni neu’ch ffrindiau agosaf yw hyn, mae hyn yn iawn oherwydd mae cefnogaeth ar gael a all ein helpu gyda’r teimladau hyn. Dyma lle mae Adoption UK a grŵp Connect yn dod i mewn iddi oherwydd ein bod ni’n tyfu gyda’n gilydd.

Beth hoffwn i ei weld yn newid i blant sy’n profi’r un peth â mi

Efallai na fyddwn ni am siarad â’n rhieni am y pethau hyn (waeth pa mor fawr ydyn nhw) felly mae angen i weithwyr ieuenctid, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl ifanc wedi’u mabwysiadu gael eu hyfforddi a chynnig lle diogel i ni siarad am fabwysiadu a’i effaith arnom.