Emily yn rhannu ei phrofiadau o gael mynediad i’w ffeiliau mabwysiadu
Wrth gyrchu eich ffeiliau gallwch brofi teimladau o nerfusrwydd, neu gyffro, ofn a phryder neu ddewrder a thawelwch mae unrhyw deimladau rydych chi’n eu teimlo yn gwbl normal! Mae’r broses hon yn unigryw i chi ac os ydych chi am eu darllen ai peidio mae hynny’n hollol iawn. Mae’r ffeiliau am eich bywyd yn y gorffennol – nid chi yw’r person hwnnw mwyach, cofiwch beth bynnag rydych chi’n ei deimlo nad yw’r geiriau hynny’n eich diffinio chi ac rydych chi’n gryfach ac yn ddoethach ac i gofio eich bod chi’n ddynol!

Weithiau gall cael mynediad i’ch ffeiliau gau un bennod ac weithiau dyma sydd ei angen i symud ymlaen neu i feithrin perthynas yn ôl gyda’r bobl a roddodd enedigaeth i chi, ond ar adegau eraill gall achosi mwy o gwestiynau a mwy o emosiynau nag a oedd gennych chi cyn eu darllen nhw, mae’n bwysig cael rhwydwaith cymorth o’ch cwmpas pan fyddwch chi’n eu cyrchu gan y gallech chi deimlo y gallwch chi ymdopi a’r realiti yw fod gennych chi fwy o emosiynau.
Pan oeddwn i’n cyrchu fy ffeiliau roeddwn i’n 22 mlwydd oed, yn fam ac roeddwn i’n meddwl fy mod i’n barod i gau’r bennod honno a symud ymlaen, roedd gen i lawer o wybodaeth o flaen llaw ac roeddwn i eisoes wedi cwrdd â’m mam fiolegol, a dyma wnaeth fy arwain i gael y rhan fwyaf o wybodaeth a oedd gen i eisoes. Roedd gen i weithiwr mabwysiadu anhygoel, sef yr un wnaeth gael fy ffeiliau i mi ac aros gyda mi wrth eu darllen. Unwaith eto, gadewch i mi dynnu sylw at y ffaith fy mod i’n MEDDWL fyd mod i’n barod, roeddwn i’n oedolyn roeddwn i’n fam roeddwn i’n gwybod popeth yn barod onid oeddwn i? Ond nid oedd hynny’n wir, mae clywed rhywbeth a darllen rhywbeth yn hollol wahanol hefyd. Roeddwn i’n adnabod y mwyafrif o bobl yn y ffeiliau ond y lleiafrif wnaeth effeithio arnaf fi, fel y dywedais roedd gen i rwydwaith cymorth anhygoel, ond nid yw’r meddyliau’n gadael pan fyddan nhw’n gadael i fynd adref, ac roeddwn i’n gallu deall bod angen cymorth ychwanegol arnaf ac es i gael sesiynau cwnsela i helpu gyda’r wybodaeth newydd oedd gen i ac i’m helpu i brosesu’r wybodaeth dan sylw.
Fel y dywedais i uchod, dim ond bodau meidrol ydym ni, dydyn ni ddim bob amser yn deall sut y gall rhywbeth bach effeithio arnom ni mor ddwfn fel ein bod yn teimlo na ddylem deimlo felly, ond mae gennym ni hawl i deimlo beth bynnag rydyn ni’n ei deimlo, nid yw’n anarferol teimlo’n ofidus neu’n ddryslyd neu hyd yn oed yn ddig, nid yw’n anarferol teimlo dim byd am gyfnod byr neu hir ac mae rhywbeth yn digwydd ac yna daw’r holl deimladau i’r wyneb, nid yw’n anarferol teimlo’n iawn ac yn wylaidd wrth ddarllen eich ffeiliau.. Ond dyna’r pwynt allweddol, eich ffeiliau CHI ydyn nhw, maen nhw’n ymwneud â’ch bywyd CHI a dim arall, eich teimladau chi yw unrhyw beth rydych chi’n ei deimlo cyn, yn ystod ac ar ôl y broses o gael gafael arnynt a’u darllen sy’n cael eu hystyried yn ddibwys ac yn anarferol.
Cofiwch, ceisiwch gael rhwydwaith da a chefnogol o’ch cwmpas, dylech ddeall y gallech deimlo emosiynau nad ydych chi erioed wedi’u teimlo o’r blaen, a chofiwch ei bod yn iawn teimlo’r emosiynau hynny. Mae’n iawn teimlo’n dda neu’n ddigynnwrf ar ôl eu darllen ac mae hefyd yn iawn i deimlo’n ddryslyd neu’n ofidus, mae unrhyw deimlad yn iawn.