Mae mabwysiadu yn golygu nad ydych chi bob amser yn cael y rhieni ieuengaf.
Dydw i erioed wedi bod â chywilydd o’m rhieni, ond weithiau rydw i’n meddwl tybed ydy’r bwlch oedran wedi achosi rhai problemau i ni.

Dydi fy mam erioed wedi bod eisiau i mi gael ffrindiau draw i aros pan oedd gweddill y byd i’w weld cael hynny. Hyd yn oed nawr rwy’n oedolyn, dydi hi ddim am i mi aros allan yn y nos.
Dydi fy mam ddim yn deall materion LHDT pan mae’n ymddangos bod gweddill y rhieni’n chwifio eu baneri enfys.
Dydw i ddim yn teimlo’n agos at fy mam, dydw i ddim yn mynd ati os ydw i’n cael trafferth. Ond eto, dydw i ddim wir yn hoffi siarad â phobl a dydw i ddim yn teimlo y gallaf fod yn agored gyda llawer o bobl.
Y peth mawr arall yw ofni colled, yn enwedig i mi oherwydd fe wnes i golli fy nhad mabwysiedig.
Collais fy nhad yn 6 mlwydd oed ac wrth gwrs roeddwn i eisoes wedi colli fy mam enedigol, ac mae hyn yn golygu, pan fyddaf i’n mynd i ffwrdd, fy mod i’n ofni y gallwn golli fy mam neu fy llystad.
Rwy’n gallu gweld fy llystad yn mynd yn hŷn ac er ei fod yn ffit, gallaf ei weld yn cael trafferth i fyny fyny’r bryn serth. Mae hyn yn fy nharo i ac rydw i wedi bod yn poeni.
P’un ai oherwydd oedran neu ddiffyg dealltwriaeth o anghenion plant, gellid helpu a chefnogi rhieni ar wahanol gamau ym mywyd eu plentyn.
Er fy mod yn credu y dylai pobl hŷn allu mabwysiadu, maen nhw angen gwell dealltwriaeth o bethau mwy diweddar.
Mae agweddau’n newid dros y blynyddoedd, er enghraifft mae’n normal nawr i fod yn hoyw neu’n lesbiaidd ond 30 mlynedd yn ôl roedd yn rhywbeth mawr.
Gellid helpu mabwysiadwyr gyda chyrsiau ymwybyddiaeth. A byddai’n dda pe gellid eu helpu i ddeall a chydnabod y bydd yr ofnau hyn o golled yn real i blant gyda rhieni hŷn.