Nid yw mabwysiadu bob amser fel mae’n ymddangos

Dan yn rhannu ei brofiadau.

Dechreuodd fy nghof cyntaf yn dair mlwydd oed ac roeddwn i yng nghartref fy rhiant maeth yng Nghymru. Roeddwn i’n byw gyda fy rhieni maeth, fy mam a fy nhad a fy mrodyr a’m chwaer.

Dyma pryd y gwnes i gyfarfod fy chwaer a fy mam a nhad mabwysiedig am y tro cyntaf ac nid yw wedi bod yn hawdd ers hynny. Yn wir, mae wedi bod yn sh*t.

Roedd pobl wedi egluro wrthyf fi mai’r bobl a oedd newydd gyrraedd oedd fy nheulu newydd. Nawr roedd yn rhaid i mi roi’r gorau i alw fy mam a ‘nhad yn mam a dad a oedd yn ychwanegu at yr holl deimladau o gael fy rhoi i ffwrdd. Roedd yn teimlo nad oedd fy ‘rhieni’ fy eisiau i. Dyma’r bobl oedd wedi fy nysgu sut i siarad, oedd wedi gofalu amdana i ac wedi fy ngharu i, nawr roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy rhoi i ffwrdd.

Roedd pobl wedi egluro wrthyf fi mai’r bobl a oedd newydd gyrraedd oedd fy nheulu newydd. Nawr roedd yn rhaid i mi roi’r gorau i alw fy mam a ‘nhad yn mam a dad a oedd yn ychwanegu at yr holl deimladau o gael fy rhoi i ffwrdd. Roedd yn teimlo nad oedd fy ‘rhieni’ fy eisiau i. Dyma’r bobl oedd wedi fy nysgu sut i siarad, oedd wedi gofalu amdana i ac wedi fy ngharu i, nawr roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy rhoi i ffwrdd.

Er i ni fynd i ymweld â’m rhieni maeth bob blwyddyn, roedd hi bellach yn teimlo fy mod wedi colli 2 set o rieni.

Dydw i ddim wedi cael unrhyw waith hanes bywyd, hyd yn oed nawr fy mod i’n oedolyn, does dim trafodaeth

Mae fy chwaer yn cofio ei rhiant yn gofyn iddi a oedd hi eisiau brawd ac mae hi’n cofio dod i fy nghyfarfod yn nhŷ fy ngofalwr maeth. Mae hi’n cofio eu bod nhw eisiau fy mabwysiadu i, ond doeddwn i ddim yn gwybod hyn bryd hynny.

Dechreuodd fy chwaer fy mwlio pan oeddwn i’n bedair neu bum mlwydd oed, roedd hi ddwy flynedd yn hŷn na fi ac yn cael ei thrin fel tywysoges. Roedd hi’n erchyll ac yn greulon gyda mi, ond ni allai wneud dim o’i le ac nid oedd neb yn fy nghredu i. Byddai’n mwynhau fy ngweld i’n cael fy nghosbi. Ni fydd mam a dad yn cyfaddef hynny, ond fe wnaethon nhw alluogi ei hymddygiad.

Dylech drin eich plant yr un fath – gall eich niweidio pan fyddwch chi’n cael eich trin yn wahanol

Cof cryf arall i mi yw pan oeddwn i ym mlwyddyn un neu ddau a bachgen ym mlwyddyn fy chwaer yn llenwi fy mag gyda danteithion ac yna’n eu gwagio, a gwneud i mi eu dwyn Fe’m wnaeth fy nhaflu i o dan y bws. Pan gafodd ei ddal, cafodd llwythi o bobl eu llusgo i mewn a chafodd mam ei galw. Roedd Mam yn teimlo embaras – ac fe wnaeth i mi deimlo’n fach ac roeddwn i’n ei ffieiddio. Ni ofynnodd neb beth oedd wedi digwydd dim ond pam roeddwn i wedi gwneud hynny? Rwy’n cofio fy mhrif elyn yn fy nilyn adref o’r ysgol. Mae llawer o bobl wedi’u mabwysiadu yn dioddef bwlio, yn ofni dweud na, yn ofn colli pobl – rydyn ni wedi colli ein rhieni biolegol felly ddim am golli ffrindiau a byddwn ni’n gwneud unrhyw beth i’w cadw

Tua’r adeg hon, pan oeddwn yn 7 mlwydd oed, ganwyd fy mrawd bach Roedd Mam wedi cael gwybod o’r blaen nad oedd hi’n gallu cael plant. Dyma pryd y newidiodd popeth eto. Rwy’n cofio mam yn dweud, “Mae’n amlwg mai Peter fydd ein ffefryn” a “Pe byddem ni’n gwybod y gallem fod wedi cael Peter, ni fyddem wedi mabwysiadu”. Gwnaed i mi deimlo’n ofnadwy ac yn annymunol.

Pan oeddwn ym MLWYDDYN 2 cefais fy rhoi gyda CAMHs i ddysgu sut i chwalu fy nicter oherwydd roeddwn i’n arfer taro fy nwylo ar stwff. Pan fyddwch chi wedi cael eich mabwysiadu, byddwch yn dysgu mewnoli’r bai – pan fyddwch chi wedi cadw eich hun dan glo, mae’n anodd bod yn agored. Os ydych chi’n cael eich rhoi i lawr ac nad yw’n iawn, ni ddylech chi roi i fyny gyda hyn. Os nad yw rhywbeth yn iawn, rhowch y gorau i feio eich hun

Bywyd normal i mi oedd gwybod bob amser fy mod wedi gwneud rhywbeth o’i le; roeddwn i’n rhy swnllyd, roedd gen i ormod o egni, bydden nhw’n dweud wrtha i am fynd i ffwrdd am eu bod nhw’n rhy brysur, nhw oedd y peth gorau oedd wedi digwydd i mi erioed, fe ddywedon nhw wrtha i ffonio gweithiwr cymdeithasol os nad oeddwn i eisiau byw. Mae’n anodd gwahaniaethu rhwng pan fyddwch chi’n ddrwg a phan fyddwch chi’n cael eich beio am rywbeth nad ydych chi wedi’i wneud.

Dylai fy rhieni fod wedi bod yn fy helpu ac roedd hi i fyny iddyn nhw p’un a oedd gennym fynediad at gymorth Nid yw pob achos o fabwysiadu yn hyfryd. Mae angen i fabwysiadwyr fod yn fwy gwydn, mae’r plant eisoes wedi mynd drwy drawma. Rhaid cael mwy o hyfforddiant i rieni.

Does gen i ddim y gallu i ddal dig a dydw i ddim eisiau colli’r cysylltiad waeth pa mor wenwynig neu doredig ydyn nhw. Mae angen i mi gael help yn gyntaf cyn y gallaf helpu eraill.