Profiadau o fwlio

Christian yn rhannu ei brofiadau.

Mae llawer o bobl ifanc yn cael eu bwlio ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ysgol Ac er bod llawer o resymau a ffactorau ynghylch pam y gallent gael eu bwlio, gallai cael eu mabwysiadu fod yn un ffactor.

Mae’r rhai sy’n erlid fel arfer yn ansicr amdanyn nhw eu hunain neu mae ganddyn nhw faterion eraill yn digwydd yn eu bywydau. Weithiau bydd bwlis yn bwlio eraill am nad ydyn nhw’n deall yn iawn beth mae’n ei olygu i fod y person arall maen nhw’n ei fwlio. Mae cael eich mabwysiadu yn cael ei ystyried fel ‘bod yn wahanol’ iddyn nhw, yn union fel diwylliant, cyfeiriadedd rhywiol, nodweddion y corff, anableddau a llawer mwy.

I berson mabwysiedig, gall bywyd fod yn ddigon anodd fel y mae. Ar ôl mynd drwy drawma yn ein bywydau cynnar gall fod yn straen ac achosi problemau o ddydd i ddydd, fel diffyg hunanhyder, iselder, pryder, diffyg hunaniaeth ac ati. Mae rhai pobl wedi’u mabwysiadu yn ofni dweud wrth eraill beth maen nhw wedi bod drwyddo gan nad ydyn nhw eisiau cael eu barnu na chael eu trin yn wahanol oherwydd hynny. Gall yr ysgol fod yn lle anodd i’w fynychu i’r rhan fwyaf o bobl, gan gael eu gorfodi i gymysgu â phobl eraill eu hoedran. I bobl sydd wedi’u mabwysiadu, gall fod hyd yn oed yn anoddach gan eu bod yn teimlo bod mwy o bwysau ar eu hysgwyddau.