Cysylltiad gyda teulu biolegol

Fe es i ofal maeth yn 11 mis oed a chefais fy mabwysiadu yn 26 mis oed. Cefais lyfr stori bywyd a oedd yn cynnwys rhywfaint o esboniadau o sut oedd bywyd cyn i mi gael fy mabwysiadu ac a oedd hefyd yn esbonio rhai o’r rhesymau pam y cefais fy mabwysiadu.

Mae fy stori’n cynnwys stori esgeulustod nodweddiadol gyda rhywfaint o gam-drin (nid fy mod i’n gwybod yr holl fanylion hyd heddiw). Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn adnabod fy nheulu biolegol neu o leiaf ddarganfod pwy ydyn nhw/o ble y deuthum felly ychydig fisoedd cyn i mi fod yn 18 mlwydd oed, cysylltodd fy mam fabwysiedig a minnau â gweithiwr cymdeithasol er mwyn i mi gael gwybod mwy am fy mywyd cyn mabwysiadu.

Cefais rywfaint o wybodaeth ychwanegol nad oeddwn i’n ei gwybod o’r blaen ond roedd cryn dipyn roeddwn i eisoes yn ei wybod a phenderfynais fy mod am gysylltu. Fy syniad i o fod mewn cysylltiad â’r teulu biolegol oedd cwrdd am goffi bob hyn a hyn (unwaith y mis er enghraifft) yn union fel y byddech chi’n ei wneud gyda’ch ffrindiau. Fodd bynnag, ni chafodd y gweithiwr cymdeithasol unrhyw lwc wrth geisio cysylltu â’m teulu biolegol.

Tua 1-2 flynedd ar ôl hynny, fe wnes i ddod o hyd i’m teulu biolegol ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltu â nhw yn y fan honno, un haf, fe wnes i drefniadau i gwrdd â nhw yn eu tŷ nhw ac fe aeth yn dda iawn; yr unig anfantais oedd nad oedd fy mam enedigol yn bresennol ond gan fy mod yn dal i fod mewn cysylltiad â’m teulu biolegol hyd heddiw, rwy’n siŵr y bydd mwy o amseroedd a chyfleoedd i gwrdd â nhw eto yn y dyfodol.