Mae pethau drwg yn glynu fel Velcro, pethau da yn llithro fel Teflon

Rydym wedi bod yn siarad am iechyd meddwl a lles yn ein grŵp, ac roeddem am rannu rhai o’n meddyliau a beth ddysgon ni felly os ydych chi’n cael unrhyw un o’r meddyliau hyn,gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad ag oedolyn dibynadwy neu gallwch ffonio Childline ar 0800 1111.

Fe roesom ni wahoddiad i Meghan Mysa sy’n newydd i Adoption UK ac sydd wedi’i chyflogi i ddechrau gwasanaeth therapiwtig newydd yn benodol ar gyfer pobl ifanc mabwysiedig rhwng 13 a 30 oed. Daeth Meghan i’n grŵp i siarad â ni am iechyd meddwl. Fe wnaethon ni ddarganfod bod mabwysiadu, fel iechyd meddwl, yn broses unigol ac nad yw profiad unrhyw berson yr un fath â phrofiad person arall. Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod mabwysiadu yn gallu chwarae rhan yn ein lles emosiynol. Buon ni’n archwilio gwahanol bethau sy’n gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl (gan gynnwys bwlio) a buon ni’n sôn am y gwahaniaeth rhwng bod yn drist
(er enghraifft yn dilyn marwolaeth rhywun annwyl, perthynas yn chwalu) a phrofi iselder. Hefyd, buon ni’n archwilio rhai mecanweithiau ymdopi rydyn ni’n gwybod eu bod yn gweithio i ni ac i’n ffrindiau.

Mae’r rhan fwyaf o blant ifanc mabwysiedig yn fwy agored i gael problemau iechyd meddwl o gymharu â’r cyhoedd yn gyffredinol.

Gallai hyn fod yn ganlyniad i gyfuniad o ffactorau:

Anawsterau gyda pherthnasoedd â theulu, ffrindiau neu bartneriaid o ganlyniad i gael pethau trawmatig yn digwydd i chi yn eich teulu biolegol neu yn ystod eich cyfnod mewn gofal maeth

Anawsterau yn ymddiried mewn pobl, yn enwedig ffigur rhiant, o ganlyniad i gael eich siomi gan ffigurau rhiant yn y gorffennol neu os ydych chi wedi cael eich gwahanu oddi wrth ffigurau rhiant yn y gorffennol.

Anawsterau yn teimlo’n ddiogel o gwmpas oedolion gyda phŵer, er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, athrawon, bosys yn y gwaith ac ati, oherwydd i rai sydd wedi cael profiadau gwael gyda ‘gweithwyr proffesiynol’: gall fod yn anodd weithiau i gredu eu bod yn meddwl am eich lles pennaf.

Heriau yn gysylltiedig â gadael cartref, fel symud i’r brifysgol, symud i fyw gyda ffrindiau, at bartner neu fod yn fwy annibynnol yn gyffredinol. Mae’n rhaid i lawer o blant mabwysiedig ddelio gyda llawer o deimladau cymhleth megis teimlad o syndrom ymhonnwr, a meddyliau fel “Dwi’n teimlo na ddylwn i fod yma, a dydw i ddim yn ei haeddu.” “Dydw i ddim yn teimlo mod i’n perthyn achos dydw i ddim yn gweld tebygrwydd i mi yn fy nheulu.”

Beth yw iechyd meddwl?


Mae Mind, yr elusen iechyd meddwl,
yn esbonio iechyd meddwl fel hyn:


“Mae iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Yn union fel iechyd corfforol: mae gan bawb iechyd meddwl ac mae angen i ni ofalu amdano.
Mae ein hiechyd meddwl ar sbectrwm,
a gall amrywio o fod yn wael i fod yn dda.
Gall iechyd meddwl da eich helpu i
feddwl yn gadarnhaol, i deimlo’n hyderus ac i weithredu’n bwyllog. Os yw eich iechyd meddwl yn wael, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r ffordd rydych chi’n meddwl, yn teimlo neu’n gweithredu.

Efallai nad ydych chi’n mwynhau’r pethau roeddech chi’n arfer eu mwynhau. Efallai y byddwch yn teimlo’n drist neu’n grac am amser hirach nag arfer. Neu efallai eich bod yn teimlo nad ydych chi’n gallu rheoli’r ffordd rydych chi’n teimlo neu’n ymddwyn.”

Technegau daearu ar gyfer yr adegau
pan fyddwch chi’n teimlo wedi’ch llethu

Edrychwch ar eich traed/eich esgidiau a gofynnwch
‘beth yw maint fy nhraed?’
Cyfrif y synhwyrau:
5 peth rydych chi’n eu gweld
4 peth rydych chi’n gallu eu cyffwrdd
3 pheth rydych chi’n gallu eu clywed
2 beth rydych chi’n gallu eu harogli
1 peth rydych chi’n gallu ei flasu
Anadlu Dwfn – anadlu’n hir a dwfn
Cwtsh Mawr – rhowch gwtsh mawr i’ch hun
a dweud “Fi sy’n rheoli”

Gall teimladau cymhleth fel hyn achosi i bobl ifanc fod yn fwy agored i broblemau iechyd meddwl. Mae problemau ymlyniad a mabwysiadu yn gydgysylltiol, ac yn ystod ein sesiwn gyda Meghan fe ddysgon ni am atgofion anymwybodol – lle mae’r corff yn dal atgofion nad ydyn ni’n eu cofio; efallai eich bod yn cofio sefyllfa wnaeth eich dychryn lle’r oedd synau uchel a phan fyddwch chi’n clywed synau uchel nawr, gall hyn achosi triger a’ch dychryn chi nawr, ond dydych chi ddim yn gwybod pam. Mae hyn yn gyffredin iawn ymysg plant mabwysiedig.



Atal problemau iechyd meddwl o fewn y gymuned fabwysiadu – addysgu eraill am fabwysiadu

Mae angen i ysgolion gael eu haddysgu ar yr effaith y mae siarad am strwythurau teuluol fel gweithgaredd yn gallu ei gael ar blant mabwysiedig. Gall creu coed teuluol yn yr ysgol wneud i blentyn mabwysiedig deimlo wedi’i ynysu ac yn anghysurus, gall hefyd arwain at deimladau cymhleth am hunaniaeth.
Gallai addysgu eraill hefyd atal plant mabwysiedig rhag gorfod wynebu gwahaniaethu am eu bod wedi cael eu mabwysiadu. Mae llawer o’n haelodau wedi trafod eu profiadau o gael eu bwlio oherwydd bod pobl yn credu mewn stereoteipiau negyddol am blant mabwysiedig. Gallai hyn hefyd helpu i leihau’r nifer o blant mabwysiedig sydd â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i fwlio.
Bod yn fwy agored gyda phlant ifanc mabwysiedig am beth yw mabwysiadu a beth y gall hyn ei olygu i wahanol bobl. Mae grwpiau fel Connected a Connect Voices yn ffyrdd anhygoel o wneud hyn, gan eu bod nid yn unig yn brwydro yn erbyn yr unigrwydd a all ddod oherwydd mabwysiadu trwy greu cymuned o bobl debyg, ond gall hefyd helpu pobl ifanc mabwysiedig i ddeall a thrafod beth yw mabwysiadu a beth mae’n ei olygu iddyn nhw. Mae’n bwysig bod gan bobl ifanc mabwysiedig rywle i fynegi eu teimladau ac i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o beth yw mabwysiadu iddyn nhw.

Ar ôl ymuno â
Connected llwyddodd un o’n haelodau
i fagu’r dewrder i fynd i goleg
ar ôl cael addysg yn y cartref am 3
blynedd!

Technegau ymdopi

Dyma rai o’r technegau ymdopi rydyn ni wedi meddwl amdanyn nhw. Efallai y bydd rhai o’r rhain
yn gweithio i chi hefyd!