Croeso / Welcome

Fe wnaethom ddechrau rhedeg grwpiau Connected yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr 2021 gan weithio’n agos gyda’r gweithwyr teulu therapiwtig o Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.
I ddechrau, roeddem ni’n cyfarfod â’n grwpiau ar Zoom ond wrth i gyfyngiadau’r llywodraeth ganiatáu hynny, rydym ni wedi symud i ddarparu grwpiau wyneb yn wyneb misol yng Ngogledd-orllewin a Gogledd-ddwyrain Cymru
Mae pobl ifanc wedi bod wrth wraidd ein gwaith cynllunio ac wedi gweithio i ddatblygu rheolau sylfaenol maen nhw am weithio o’u mewn a rhaglenni o weithgareddau maen nhw am gymryd rhan ynddyn nhw.
Rydym ni’n cynnig darpariaeth Gymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru.
Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu mwy o blant a phobl ifanc i’n grwpiau– cysylltwch â ni i gael gwybod mwy!


Cwrdd â’r tîm

Helo, fi yw Talitha a fy rhagenwau yw hi. Rwy’n gweithio i Connected fel Gweithiwr Ieuenctid Arweiniol yng Ngogledd Cymru. Rwyf hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru yn ein fforymau ieuenctid CONNECT Voices.
Rwy’n weithiwr ieuenctid cymwys, athro, gweithiwr chwarae a gweithiwr gofal plant. Cyn hyn rwyf wedi rheoli tîm addysg anffurfiol, wedi gweithio fel gweithiwr ieuenctid ysgol, gweithiwr datgysylltiedig, gweithiwr chwarae ac wedi rheoli cyfleuster cyn-ysgol. Mae’n teimlo’n dda iawn i fod yn gweithio gyda phobl ifanc eto.
Pan nad ydw i’n gweithio gyda phobl ifanc, rydw i wrth fy modd yn treulio amser gyda fy ffrindiau a’m teulu, yn dysgu Cymraeg, yn gwirfoddoli i grŵp cymdeithasol Cymraeg lleol, yn mynd i’r sinema, yn gwrando ar gerddoriaeth, cerdded fy nghi, Minnie, mynd i Glwb Darllen, gwersylla a mynd ar anturiaethau.

