Siarter Mabwysiadu

Ydych chi’n ifanc ac wedi cael eich mabwysiadu?  Ydych chi’n gwybod eich hawliau? Oeddech chi’n gwybod bod siarter Mabwysiadu i chi?

Bu aelodau CONNECT Voices (Ein Cyngor Ieuenctid ar gyfer Pobl Ifanc wedi’u Mabwysiadu) yn cydweithio ar y siarter hon sy’n nodi hawliau plant a phobl ifanc wedi’u mabwysiadu ledled Cymru. Cofiwch mai eich hawliau CHI yw’r rhain i gael help os   ydych chi ei angen.

Siarter Mabwysiadu

Llais y plentyn ddylai fod wrth wraidd popeth a wnawn:

Mae gen i’r hawl i gael gwybod am benderfyniadau sy’n ymwneud â gweithwyr proffesiynol sy’n effeithio arna i. Naill ai’n uniongyrchol (ac yn gyfrinachol) neu drwy eiriolwr.

Mae gen i’r hawl i fy llais gael ei glywed mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau mae gweithwyr proffesiynol yn eu gwneud amdana i.

Mae gen i’r hawl i gael gwybodaeth lawn am y rhesymau pam bod penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol a’r hawl i apelio yn eu herbyn.

Mae gen i hawl i ddeall nad fy mai i yw na allai fy rhieni biolegol edrych ar fy ôl.

Mae gen i hawl i ddisgwyl i unrhyw benderfyniadau a chanlyniadau ystyried fy mhrofiadau penodol fel plentyn du neu blentyn o leiafrif ethnig ac i barchu fy ethnigrwydd, fy iaith a’m treftadaeth ddiwylliannol.

Mae gen i hawl i ddeall pam na allaf fyw gyda fy nheulu biolegol.

Mae gen i hawl i ddeall pam y gallwn neu pam na allwn i fyw gyda fy mrodyr a’m chwiorydd.

Mae gen i hawl i ddeall pam y cafodd mabwysiadu ei ddewis ar fy nghyfer i.

Mae gen i hawl i ddeall pam y cafodd y teulu penodol hwn ei ddewis i mi.

Mae gen i hawl i gadw mewn cysylltiad gyda fy nheulu biolegol os yw’n ddefnyddiol ac yn ddiogel i mi wneud hynny (dim ond os yw’n gwneud mwy o les na niwed).

Mae gen i hawl i ddeall pam y gwnaed y trefniadau ‘cadw mewn cysylltiad’ (cyswllt) presennol.

Bydd fy rhieni biolegol yn derbyn cefnogaeth i’w helpu i gadw mewn cysylltiad (cyswllt) gyda mi lle cafodd hynny ei gytuno.

Mae gen i hawl i gadw mewn cysylltiad â phobl eraill sy’n bwysig i mi er enghraifft gofalwyr maeth lle mae hi’n ddefnyddiol ac yn ddiogel i mi wneud hynny.

Wrth feddwl am yr hyn sydd ei angen arna i, bydd gweithwyr proffesiynol yn meddwl am fy mhlentyndod i gyd nid dim ond y presennol.

Mae gen i’r hawl i gael cefnogaeth/gwasanaethau iechyd meddwl pan fydd angen hynny arna i.

Mae gen i’r hawl i gael cefnogaeth i gadw fyny gyda fy nghyfoedion o fewn y system addysg.

Rydyn ni’n haeddu’r gefnogaeth briodol pan fyddwch ein hangen i’ch cynghori, neu pan fyddwch eisiau i ni ddod i siarad â chi.

Mae’r siarter hon wedi ystyried llais pobl ifanc mabwysiedig, galwad ac addewid Cynghrair Brodyr a Chwiorydd a Hawliau Gwasanaethau Mabwysiadu Cenedlaethol y Plentyn.
Daethpwyd i gytundeb terfynol ar hyn ar benwythnos hyfforddi’r Llysgenhadon 20/08/2022 a gan CONNECT Voices 14+ 15/09/2022