Rydym ni’n falch iawn o rannu newyddion cyffrous iawn

CONNECT – Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sydd wedi’u Mabwysiadu, sy’n cael ei arwain gan Adoption UK Cymru, wedi cyflawni’r Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol, a ddyfarnwyd gan Plant yng Nghymru ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae CONNECT yn cefnogi plant a phobl ifanc 7-30 mlwydd oed sydd wedi’u mabwysiadu ar draws 22 sir yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu gwybodaeth ac arweiniad sy’n ystyriol o blant a phobl ifanc ar fabwysiadu, codi ymwybyddiaeth o brofiadau mabwysiadu plant a phobl ifanc, a darparu sesiynau a chymorth wedi’u harwain gan gymheiriaid, yn seiliedig ar weithgareddau drwy’r Gwasanaeth Connected. Mae CONNECT hefyd yn rhedeg Cynghorau Ieuenctid cenedlaethol a chynllun llysgenhadon ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu i sicrhau bod pobl ifanc yn gwrando ar eu lleisiau ac yn gallu dylanwadu ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
Mae’r Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol yn cael ei ddyfarnu i wasanaethau sydd wedi dangos eu bod yn llwyddo i gyflawni pob un o’r saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol
Gwybodaeth
Eich dewis chi ydyw
Dim Gwahaniaethu
Parch
Chi’n cael rhywbeth allan ohono
Feedback
Gweithio’n well i chi


Er mwyn ennill y Nod Barcud, archwiliodd grŵp o Arolygwyr Ifanc CONNECT Y Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi’u Mabwysiadu i archwilio a oeddent yn cyflawni yn erbyn pob un o’r saith safon.
Ysgrifennodd yr arolygwyr ifanc adroddiad adborth, yn seiliedig ar eu hasesiad, a argymhellodd ddyfarnu’r Nod Barcud.
Mae’r safonau hefyd yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n rhoi cynnwys plant wrth wraidd gwella lles.
Rydym ni’n hynod falch o dderbyn y wobr fawreddog hon. Rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod yn ymgorffori’r saith safon yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd, a gwelwyd tystiolaeth o hyn yn yr adroddiad terfynol.