Cyngor Ieuenctid

Mae Lleisiau CONNECT yn grŵp ar gyfer pobl ifanc wedi’u mabwysiadu i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd wedi’u mabwysiadu ac i rannu eu profiadau mabwysiadu

Gyda’n gilydd, ein nod yw sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yn cael eu clywed ac yn dylanwadu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Bob mis, rydym yn cyfarfod drwy Zoom i drafod a gosod nodau ymarferol. Rydym ni hefyd yn darparu hyfforddiant i aelodau fel y gallant deimlo’n fwy hyderus yn eu galluoedd

Beth yw’r grwpiau oedran?

Mae dau grŵp Lleisiau CONNECT, un ar gyfer 14+ ac un ar gyfer pobl ifanc 18-30 mlwydd oed. Mae’r grwpiau hyn yn cynnal sesiynau misol ar-lein gan ddefnyddio Zoom. Gallwch ymuno gyda fideo neu sain yn unig, eich dewis chi yw hynny’n llwyr.

Diddordeb mewn ymuno? Cliciwch y botwm isod i ymweld â’r dudalen Connected ar wefan Adoption UK Cymru

Pwy yw’r gweithwyr?

Yr hwyluswyr yw Fran a Talitha – Gweithwyr Ieuenctid Arweiniol sydd hefyd yn rhedeg grwpiau Connected ledled Cymru ar gyfer pob oedran.

Gwybodaeth bwysig i’w hystyried wrth ymuno 

Weithiau gall siarad am brofiadau mabwysiadu arwain at wahanol deimladau ac emosiynau, rhai yn dda, rhai ddim cystal. Rydym ni am eich cadw’n ddiogel bob amser, felly rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael rhai rheolau sylfaenol ac rydym ni am i chi lunio’r rhain gyda ni.

Un rheol sylfaenol na ellir ei thrafod yw cyfrinachedd a diogelu. Bydd popeth rydych chi’n ei drafod, naill ai’n bersonol neu mewn lleoliad grŵp, yn cael ei gadw’n gyfrinachol a gofynnwn i chi barchu’r naill a’r llall yn yr un ffordd hefyd. Yr unig adeg y byddem ni’n trafod ein sgyrsiau y tu allan i’r grŵp yw os ydych chi’n rhannu/dweud rhywbeth sy’n gwneud i ni deimlo’n bryderus amdanoch chi neu rywun arall. Os bydd hyn yn digwydd, lle bo hynny’n bosibl, byddwn yn siarad gyda chi amdano yn gyntaf. Byddem wedyn yn cysylltu â rhywun i’ch cefnogi. Nid oes rhaid i hyn fod yn rhiant ond rhywun rydych chi’n ei adnabod, yn ymddiried ynddo ac yn barod i rannu rhif cyswllt ag ef. Er enghraifft, gallai fod yn rhiant, yn weithiwr cymdeithasol neu’n ffrind da. Fodd bynnag, os yw’n rhywbeth brys, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu â’r gwasanaethau perthnasol. Mae hyn yn unol â’n polisi diogelu. Gallwn rannu hwn gyda chi os hoffech gael rhagor o wybodaeth.